Adnoddau ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn Coventry a Sir Warwick.
Cymdeithas Cambrian Coventry
Sefydlwyd Cymdeithas Cambrian Coventry yn 1972 “i hybu diddordeb yn niwylliant a cherddoriaeth Cymru ac i ddarparu cymdeithas i bawb sy’n ymddiddori yng Nghymru a phethau Cymreig”.
Mae cyfarfodydd misol y gymdeithas yn agored i bawb. Y maent yn cynnwys sgyrsiau, nosweithiau cymdeithasol, a digwyddiadau arbennig fel Cinio Dewi Sant a gwibdaith flynyddol i Gymru.
Say Something In Welsh Coventry
Mae SaySomethingInWelsh yn annog pob dysgwr Cymraeg i ddechrau siarad Cymraeg mewn sgwrs, o’r cychwyn cyntaf iddynt ddysgu Cymraeg.
Mae dau grŵp SaySomethingInWelsh yn Coventry, un sy’n cyfarfod bob pythefnos ar fore Iau yn Eglwys Fethodistaidd Earlsdon ac un sy’n cyfarfod bob mis ar nos Fercher ym mwyty y Ddraig Werdd ac ar foreau Sadwrn yng Nghanolfan Arddio Dobbies ger Rygbi.
Mae yna hefyd grŵp sgwrsio sy’n cyfarfod unwaith y mis yn Llyfrgell Ganolog Coventry.
Capel Cymraeg Coventry
Mae gan Coventry Gapel Presbyteraidd Cymraeg sy’n cyfarfod yn Eglwys Fethodistaidd Radford a Holbrooks dri phrynhawn Sul y mis gydag oedfa yn Gymraeg a sgwrs yn Gymraeg dros baned wedyn. Cynhelir Gwasanaeth Carolau dwyieithog yn flynyddol.
Côr Cymraeg Coventry
Côr Cymraeg Coventry yw unig gôr Cymraeg y ddinas. Dechreuodd yn 2016. Er gwaethaf ei faint bach, mae’r grŵp wedi perfformio mewn sawl man yn lleol gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Coventry a Chanolfan Gelfyddydau Warwick, ac mewn eglwysi, tafarndai a bariau.
Rydym yn hoffi dod â rhai o draddodiadau cerddoriaeth a diwylliant Cymru i Coventry. Mae’r criw yn ymarfer ar brynhawn Sul yn nhafarn yr Humber. Rydym yn croesawu ceisiadau newydd i ymuno â’n grŵp.
Dolenni
Cymdeithas Cambrian Coventry
Côr Cymraeg Coventry
Say Something In Welsh
Dysgu Cymraeg (cyrsiau)
Rhestr e-bost
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag info@covwelshlearners.co.uk a byddwn yn trosglwyddo eich neges i’r bobl berthnasol.
Mwy o wybodaeth
Cliciwch yma a rhowch eich cyfeiriad e-bost i dderbyn diweddariad e-bost misol, neu sganiwch y cod QR isod.
Oherwydd materion technegol, yn aml nid yw’r cadarnhad dau gam a gyrchir o’r cod QR hwn yn gweithio. Os ydych chi’n ceisio tanysgrifio ond ddim yn derbyn e-bost neu ddim yn derbyn neges llwyddiant, anfonwch e-bost atom yn lle!
Y dudalen hon
Mae’r cod QR ar gyfer y dudalen hon yma.